Ble bynnag yr ewch yn y byd, mae pobl yn gwrando ar Gymru. Mae gennym leoliadau a chanolfannau gwych, gwyliau, hyrwyddwyr, stiwdios a labeli recordio. Nid oes diwedd i'n rhestr o sêr rhyngwladol, o Underworld i'r Super Furry Animals, Shirley Bassey i Duffy, Funeral for a Friend i’r Manic Street Preachers.
Rydym am ehangu'r rhestr hon. Drwy ddatblygu cerddoriaeth ar lawr gwlad, gallwn feithrin y genhedlaeth nesaf o fandiau ac artistiaid – o Buzzard Buzzard Buzzard ac Adwaith, i Kelly Lee Owens ac Afro Cluster. Mae hynny'n golygu sicrhau bod ganddynt y sgiliau a'r adnoddau sydd eu hangen arnynt i ffynnu.
Rydym yn hyrwyddo ystod eang o fentrau ar gyfer y diwydiant cerddoriaeth fasnachol a'i gerddorion, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae'r rhain yn cynnwys arian ar gyfer artistiaid sy'n gwthio tuag at y lefel nesaf, prosiectau cerddorol a chyfoeth o adnoddau ar-lein. Ein nod, ochr yn ochr â'n partneriaid, yw sicrhau bod talent Cymru – ar draws y diwydiant cerddoriaeth – yn cael ei feithrin, ei gefnogi a'i ddatblygu. Yn ogystal, ewch i UK Music a Help Musicians - dau sefydliad sydd yn offrymu nifer o wasanaethau a chymorth i bobl sy'n gweithio yn y diwydiant.
Mae’n bwysig dweud, fodd bynnag, er bod cerddoriaeth glasurol, opera, cerddorfa a theatr gerdd yn elfennau hanfodol o gerddoriaeth Gymraeg a’r sector creadigol ehangach, mae sefydliadau eraill, megis Cyngor Celfyddydau Cymru, yn gofalu am y rhain.
Mae cerddoriaeth wrth wraidd ein hunaniaeth genedlaethol. Rydym wedi ymrwymo i'w dwf a'i lwyddiant, yn ei holl amrywiaeth, yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Sut mae Porter’s wedi elwa o’n Cronfa Gyfalaf Cerddoriaeth
Ein nawdd yn helpu i ddiogelu dyfodol lleoliad yng Nghaerdydd.
Testunau:
Jayce Lewis: offerynnwr, artist, a pherchennog stiwdio gerddoriaeth
Darganfyddwch sut aeth Jayce o artist unigol i fod yn berchennog ar stiwdio gerddoriaeth ei hun ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Testunau:
Sut mae’r Sefydliad PRS yn cefnogi crewyr cerddoriaeth ifanc Du
Dysgwch sut mae menter POWER UP yn ceisio chwalu rhwystrau i’r gymuned gerddoriaeth Ddu.
Testunau:
© Hawlfraint y Goron / Crown Copyright
Dyma sŵn y Gymru gyfoes
Wythnos Gigfannau Annibynnol yn dychwelyd
Dod o wybod am y lleoliadau a’r artistiaid sy’n rhan o Wythnos Gigfannau Annibynnol yng Nghymru eleni.
Nia Wyn: artist neo-soul
O Landudno i Lundain, darllenwch am daith gerddorol bwerus Nia.
Ryan Richards: rheolwr artistiaid a pherchennog Future History Management.
O ddrymiwr Funeral for a Friend i reolwr artistiaid, dyma hanes gyrfa gerddorol egnïol Ryan.
Darganfod y Honey Sessions gan Beacons
Sut mae’r Honey Sessions gan Beacons yn datblygu talent ifanc yn y diwydiant cerddoriaeth Gymreig.
Gŵyl Ymylol BBC 6 Music: arddangos cerddorion a lleoliadau Cymru
Darganfyddwch yr artistiaid, lleoliadau a digwyddiadau tu ôl i Ŵyl Ymylol Caerdydd.
Rhai i'w gwylio: Wyth band ac artist mwyaf cyffrous.
Dyma rai o’r bandiau ac artistiaid o Gymru i gadw llygad a chlust arnynt.
Testunau:
Cyn ichi ddechrau…
Animeiddiadau
Mae’r safle hwn yn defnyddio animeiddio – fe allan nhw achosi problemau i rai pobl ac mae modd eu diffodd.