Yr uwch-dîm rheoli
Jason Thomas Cyfarwyddwr Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
Jason yw pennaeth y Gyfarwyddiaeth Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth o fewn Llywodraeth Cymru sy’n cynnwys brand Cymru Wales, Cadw, Croeso Cymru a Cymru Greadigol.
Gerwyn Evans Dirprwy Gyfarwyddwr
Wedi’i benodi yn 2019, mae Gerwyn yn gyfrifol am arwain y gwaith o ddatblygu’r dull newydd o gefnogi’r sectorau creadigol yng Nghymru.
Joedi Langley Pennaeth Datblygu'r Sector
Mae Joedi yn rheoli datblygiad ar draws y sectorau allweddol , yn ogystal â bod â chyfrifoldeb cyffredinol am sgiliau a thalent.
Paul Osbaldeston Arweinydd Datblygu – Digidol a Sgrîn
Mae Paul yn arwain ar sectorau digidol, animeiddio a gemau. Ynghyd â'i dîm ymroddedig, mae'n sicrhau bod y sector digidol yng Nghymru ar flaen y gad o ran technoleg newydd ac arloesi. Mae Paul yn gyfrifol am ddatblygu a chyllido’r diwydiant sgrîn, yn ogystal â'n gwasanaeth hanfodol a phwrpasol, Sgrîn Cymru.
Pete Francombe Arweinydd Datblygu – Cerddoriaeth a Chomedi
Peter yw'r arweinydd ar gyfer cerddoriaeth a sectorau datblygol. Mae’n arwain tîm angerddol sydd â chysylltiadau da o fewn Cymru Greadigol.
Melanie Kinsley, Arweinydd Strategaeth a Pholisi
Ochr yn ochr â'i thîm, mae Mel yn gweithio'n galed er mwyn gwneud yn siwr ein bod yn cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Hi sydd hefyd yn arwain ar bolisi cyfryngau a chefnogaeth ar gyfer y sector cyhoeddi, drwy Gyngor Llyfrau Cymru.
Stephanie Woodward, Arweinydd Rhaglenni a Gweithrediadau
Mae Stephanie'n gyfrifol am arolygu'r broses o ddarparu rhaglenni, yn ogystal â rheoli tîm cyllid Cymru Greadigol.
Lynsey May, Arweinydd Marchnata a Chyfathrebu a Phartneriaethau
Lynsey yw arweinydd ein Tîm bach Marchnata, Cyfathrebu, Nawdd a Digwyddiadau. Mae'r tîm i gyd yn gweithio er mwyn eich diweddaru ar yr holl weithgarwch a chyfleoedd sy'n digwydd o fewn ein diwydiannau creadigol arbennig.
Ein bwrdd anweithredol
Gan ddod â'u cyfoeth o brofiad o bob rhan o'r byd creadigol, penodwyd ein bwrdd anweithredol yn 2020 am dair blynedd. Maen nhw’n ein cynghori, yn ein herio ac yn ein helpu i osod ein gweledigaeth, ein gwerthoedd a'n cyfeiriad strategol. Dyma gyflwyno aelodau ein bwrdd:
Catryn Ramasut – Cadeirydd bwrdd gweithredol Cymru Greadigol a Sylfaenydd Cynhyrchiadau ie ie
Catryn yw sylfaenydd Cynyrchiadau ie ie – cwmni cynhyrchu wedi'i leoli yng Nghaerdydd. Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae wedi gweithio ym maes radio, teledu, print, rheoli cerddoriaeth a hysbysebu.
Phil Henfrey – Pennaeth ITV Cymru Wales
Mae Phil wedi bod yn enw amlwg ym maes newyddiaduraeth a darlledu yng Nghymru ers 30 mlynedd. Mae ei dîm yn cynhyrchu 300 awr o gynnwys gwasanaeth cyhoeddus ar gyfer cynulleidfaoedd teledu a digidol yng Nghymru bob blwyddyn, ynghyd â rhaglenni ar gyfer S4C, y BBC ac ITV.
John Rostron – Prif Weithredwr 'Association of Independent Festivals'
John yw corff sy'n cynrychioli'r ŵyliau bennaf yn y DU, yn gyd-sylfaenydd a Chadeirydd 'Association of Independent Promoters' ac mae'n gyd-sylfaenydd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig ymhlith llawer o gyflawniadau eraill.
Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru
Mae Helgard wedi gweithio mewn amrywiaeth o rolau yn y diwydiant cyhoeddi rhyngwladol ers 1995, cafodd ei ethol i Orsedd y Beirdd yn 2020 ac fe'i henwyd yn un o'r 150 o bobl fwyaf dylanwadol ym maes cyhoeddi ym Mhrydain yn 2021.
Andy Warnock, Trefnydd Rhanbarthol, Undeb y Cerddorion
Andy yw trefnydd rhanbarthol Cymru a De-Orllewin Lloegr Undeb y Cerddorion. Fe sy'n gyfrifol am wasanaethau, gwaith maes ac ymgyrchoedd yr Undeb yn y rhanbarth. Mae ganddo gefndir mewn codi arian ar gyfer y celfyddydau, yn ogystal â cherddoriaeth. Mae'n aelod hefyd o nifer o grwpiau gan gynnwys Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd, Bristol Nights a Chyngor Cyffredinol TUC Cymru.